Teithiau Pysgota
Beth sy’n well na thaith dawel, lonydd i un o’n rhiffiau cyfrinachol lle gallwn ostwng bachyn ac abwyd arno i wely’r môr?
Yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn, byddwn yn pysgota am fecryll, gwyniaid y môr, spurdogs, cathod môr, morgwn lleiaf, siarc bull huss, penfras a merfogiaid môr (sea bream). Bydd atgofion yn cael eu creu ar y teithiau hyn!
- Darperir offer pysgota hawdd ei ddefnyddio, a hynny’n rhad ac am ddim. Ceir cyflwyniad defnyddiol
- Cwch modern, diogel a safadwy, a dwy ran i’w gorff
- Tawel, heb arogleuon diesel drewllyd
Mae’r Legend of New Quay dros ddeg metr o hyd a bron yn bedwar metr o led, ac yn hwyl i bysgota o’i fwrdd pan mae’n hwylio neu wedi’i angori. Mae Ceinewydd yn agos i Aberaeron. Mae’n 40 munud o Aberystwyth, Aberteifi a Chaerfyrddin. Anelwch am arfordir Ceredigion a’i holl ddolffiniaid, a byddwch yn siŵr o’n darganfod. Mae’n daith ddigon bleserus o Sir Benfro.
Mae ein taith bywyd gwyllt yn sicr o fod yn un lawn cyffro. Plis cysylltwch os hoffech gael taith i weld y bywyd gwyllt lleol.