Bywyd Gwyllt Anhygoel
Mae teithiau’r Epic Fishing Trips yn mynd i ganol un o’r amgylcheddoedd cyfoethocaf o ran bywyd gwyllt morwrol. Rydym yn ddigon ffodus o weld rhai golygfeydd anhygoel yn ddyddiol, bron. O’r dolffin i’r llamhidydd, y morlo ac ambell aderyn prin – mae ein teithiau’n gofiadwy iawn o ran y wledd o fywyd gwyllt sydd o’n cwmpas.
Gall y dolffin trwynbwl dyfu hyd at 4.5 metr o hyd, a daw i nofio wrth ochr y cwch yn aml wrth i ni hwylio i’r mannau pysgota. Wrth bysgota, gall y llamhidydd harbwr ein pasio, a daw morlo heibio’r cwch o dro i dro.
Creaduriaid arbennig
Mae slefrod môr casgen (barrel jellyfish) – rhai ohonynt yn fwy o faint na chaed bin – yn ein pasio weithiau wrth fynd efo’r llanw, ac yng nghanol yr haf gwelwn ambell bysgodyn yr haul (sun fish) yn crwydro’r moroedd.
Yn yr haf daw adar drycin Manaw o Chile, gan daro wyneb y dŵr â’u hadenydd wrth hedfan heibio’r cwch. Gwelwn fulfranod (gannets), adar y môr mwyaf Ewrop o ran eu maint, yn plymio i’r tonnau. Weithiau hefyd, mae palod (puffins) a gwylanod y graig (petrels) i’w gweld. Dyma fideo byr am yr adar arbennig rydym yn eu gweld. Fe welwch ryw fywyd gwyllt arbennig ar bron bob un o’n teithiau, ond gan fod pob taith yn wahanol, nid oes sicrwydd beth a welwn; mae un peth yn sicr – bydd eich taith yn fythgofiadwy!
Mae ein teithiau bywyd gwyllt yn llawn antur bob tro. Plis cysylltwch os hoffech drefnu taith. Dyma linc i’n fideo am ddolffiniaid.
Mae Ceinewydd yn agos i Aberaeron. Mae’n 40 munud o Aberystwyth, Aberteifi a Chaerfyrddin, ac yn daith ddigon pleserus o Sir Benfro.